Pwy sy'n gwneud beth
Gosod mesuryddion clyfar. Creu grid cyfathrebu diwifr newydd. Sicrhau bod pawb, yn enwedig pobl fregus, yn gweld y buddion. Mae llawer o fudiadau, yn ogystal â chodau a safonau rheoleiddio newydd. Dyma ddadansoddiad byr o'r holl gyfrifoldebau.
Y cwmni cyfathrebiadau data
Mae'r Cwmni Cyfathrebiadau Data'n darparu'r isadeiledd cyfathrebu sy'n trafod data mesuryddion clyfar. Nhw sy'n sicrhau bod mesuryddion clyfar yn anfon yr wybodaeth iawn i sicrhau bod biliau'n gywir. Maen nhw wedi'u rheoleiddio gan Ofgem ac ni fyddant yn storio unrhyw ddata cwsmer eu hunain.
Sut mae mesuryddion clyfar yn gweithio?
Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am sut mae mesuryddion clyfar yn gweithio yma:
Cwestiynau cyffredin
Beth yw'r ymgyrch cyflwyno mesuryddion clyfar genedlaethol?
Erbyn diwedd 2020, bydd tua 53 miliwn o fesuryddion clyfar wedi'u gosod mewn 30 miliwn o adeiladau (cartrefi a busnesau) ledled Cymru, Lloegr a'r Alban. Mae'r rhaglen eisoes wedi dechrau. Mae tua 7 miliwn o fesuryddion clyfar eisoes wedi'u gosod. Dyma'r prosiect isadeiledd cenedlaethol mwyaf yn ein bywydau, a bydd yn galluogi system ynni fwy effeithlon o lawer ar gyfer Prydain Fawr.
Gwyliwch y ffilm fer hon i gael gwybod mwy am yr ymgyrch cyflwyno mesuryddion clyfar genedlaethol.
Ydy pawb ym Mhrydain Fawr yn cael mesurydd clyfar?
Mae gan bawb ym Mhrydain Fawr hawl i gael mesurydd clyfar os ydynt eisiau un ac mae'n rhaid i bob cyflenwr ynni gynnig mesurydd clyfar i'w gwsmeriaid erbyn 2020.