Skip To Content

Your browser is out of date, please upgrade it.

Côr-feistr o Gymru yn tiwnio mesuryddion clyfar

Bydd Energise: Y Côr Mesuryddion Clyfar, yn recordio cân sydd newydd ei chyfansoddi yn Stiwdios enwog Rockfield i ddathlu dyfodiad mesuryddion clyfar i bob cartref yn rhan o'r uwchraddiad digidol sydd ar waith ledled Prydain.

Wedi eu hysbrydoli gan y dynion a menywod fydd yn gyfrifol am uwchraddio mesuryddion nwy a thrydan clyfar ym mhob cartref yng Nghymru a ledled Prydain Fawr, mae'r arbenigwr corawl wedi recriwtio peirianwyr a staff o nifer o gyflenwyr ynni ledled Cymru a Lloegr, yn cynnwys Nwy Prydain, SSE ac E.ON. 

Mae mesuryddion clyfar yn cael eu gosod ym mhob cartref rhwng nawr a 2020 heb unrhyw gost ychwanegol.  Byddant yn terfynu'r cyfnod o filiau amcangyfrifiedig ac yn dangos i ni beth ydym yn gwario mewn punnoedd a cheiniogau, bron a bod ar y foment. Yn ganolog i'w cyflwyniad cenedlaethol hwn mae miloedd o ddynion a menywod a fydd yn gosod mesuryddion newydd Prydain. 

Mae Tim Rhys Evans yn adnabyddus cyn hyn am arwain Only Men Aloud i fuddugoliaeth yng nghystadleuaeth rhaglen frig y BBC Last Choir Standing yn 2008, a chyrraedd rownd gynderfynol Britains Got Talent yn 2012 gyda Only Boys Aloud. Mae ei amrywiol gyflawniadau corawl yn cynnwys perfformiadau yn y Perfformiad Amrywiaeth Brenhinol yn 2008, Gemau Chwe Gwlad yr RBS a Seremoni Agoriadol Gemau Olympaidd 2012.

Mae ymarferion wedi cychwyn a bydd Energise: Y Côr Mesuryddion Clyfar yn mynd ymlaen i recordio cân wreiddiol wedi ei chyfansoddi'n arbennig gan Tim, gyda chymorth y cynhyrchydd cerddoriaeth James Clarke, sydd wedi gweithio gyda Rufus Wainwright a Cerys Matthews. Mae rhai o gantorion hŷn y corau sy'n cael eu rhedeg gan Elusen Aloud Tim hefyd wedi cyfrannu, wedi eu dethol ar gyfer eu sgiliau cyfansoddi a diddordeb mewn ysgrifennu caneuon.

Bydd y gân yn cael ei recordio yn stiwdios enwog Rockfield, yn Sir Fynwy, ble mae bandiau mawr yn cynnwys Oasis a Queen wedi recordio albymau.

Meddai Tim: “Mae'r trawsnewidiad cenedlaethol enfawr hwn o ynni yn wirioneddol ysbrydoledig a bydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i bob cartref. Roeddwn wedi fy nharo gan sut roedd cymaint o bobl o wahanol sefydliadau ledled y wlad yn cydweithio i sicrhau bod pawb yn gallu bod yn rhan o hyn – yn union fel y gwnawn gyda cherddoriaeth.  Mae'r syniad o sefydlu Energise: Y Côr Mesuryddion Clyfar o unigolion ‘nad ydynt yn gantorion’ a mynd a nhw ar eu taith, o recriwtio i recordio cân wreiddiol, yn wirioneddol gyffrous. 

“Mae'r ymarferion yn mynd yn dda hyd yma; rydyn ni'n edrych ymlaen at fynd i'r stiwdio recordio!”

Ychwanegodd Fflur Lawton, Pennaeth Polisi a Chyfathrebu, Cymru Ynni Clyfar GB: “Rydym wrth ein boddau bod Tim a James wedi eu hysbrydoli cymaint gan y llu o staff mesuryddion clyfar a chanolfan alwadau sy'n asgwrn cefn yr ymgyrch mesuryddion clyfar, yn gweithio'n galed ar sicrhau bod pawb yn cael eu huwchraddiad digidol. Dwi'n siŵr y bydd y gân hon yn sbarduno'r timau wrth iddynt weithio.”

Bydd y gân wreiddiol yn cael ei rhyddhau yn gynnar ym mis Ionawr ynghyd â ffilm fer yn dogfennu'r prosiect, o recriwtio i recordio, a bydd ar gael i'w gwylio ar sianel YouTube Ynni Clyfar GB ac am ddim i'w lawrlwytho ar Spotify.

 -DIWEDD-

Cliciwch i’r dde i arbed y llun neu lawrlwythwch luniau o’r tudalen yma

Tim Rhys Evans MBE 1

Nodiadau i Olygyddion

Ynglŷn ag Ynni Clyfar GB

Ynni Clyfar GB yw llais yr ymgyrch cyflwyno mesuryddion clyfar. Ein tasg ni yw helpu pawb ym Mhrydain Fawr i ddeall mesuryddion clyfar, yr ymgyrch gyflwyno genedlaethol a sut i ddefnyddio'r mesuryddion newydd i gadw rheolaeth ar eu nwy a'u trydan. Mae ein hymgyrch genedlaethol eisoes wedi dechrau a bydd yn cyrraedd pob aelwyd a microfusnes yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. I gael gwybod mwy ewch i'n gwefan smartenergyGB.org

Ynglŷn â mesuryddion clyfar a'r ymgyrch

Bydd mesuryddion clyfar yn disodli'r mesuryddion nwy a thrydan traddodiadol sydd gennym yn ein cartrefi ar hyn o bryd. Byddant yn darparu biliau cywir, gwybodaeth bron mewn amser real am y defnydd o ynni mewn punnoedd a cheiniogau, a rheolaeth well i ddefnyddwyr dros eu nwy a thrydan. Mae'r ymgyrch cyflwyno mesuryddion clyfar yn uwchraddiad technolegol hanfodol, digynsail ei graddfa, i wella isadeiledd ynni Prydain Fawr. Rhwng nawr a 2020 bydd mesurydd clyfar yn cael ei gynnig i bawb ar draws Cymru, Lloegr a'r Alban gan eu cyflenwyr ynni heb unrhyw gost ychwanegol. Mae mwy na phedair miliwn o fesuryddion clyfar eisoes wedi'u gosod ar draws Prydain Fawr. I gael gwybod sut y gallwch chi gael mesurydd clyfar gan eich darparwr ynni, casglwch daflen o'ch Swyddfa Bost ® leol neu ewch i smartenergyGB.org/get-a-smart-meter

Ynglŷn â'r Elusen Aloud

Sefydlwyd yr Elusen Aloud yn 2012 gan y Cyfarwyddwr Artistig Tim Rhys-Evans, gyda chenhadaeth o ddenu pob cenhedlaeth o bobl ifanc ledled Cymru gyda phŵer canu corawl a, thrwy hyn, i hybu hunan-hyder, annog dyheadau, meithrin sgiliau a datblygu teimlad o gymuned. Ar hyn o bryd ein dau brif ffrwd gweithgaredd yw Corws Canolfan y Mileniwm/Corws Plant Cenedlaethol Only Kids Aloud a ddarperir mewn partneriaeth â Chanolfa Mileniwm Cymru, ac Only Boys Aloud, ar gyfer bechgyn yn eu harddegau. Mae OBA yn ymgysylltu gydag oddeutu 200 o fechgyn yr wythnos trwy 14 o gorau ledled Cymru; heb unrhyw glyweliad na ffi, mae OBA yn agored i unrhyw fachgen sydd eisiau mynychu. Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.aloud.cymru

Cysylltiadau cyfryngau Ynni Clyfar GB

Am fwy o wybodaeth gan gynnwys gofyn am gyfweliadau, astudiaethau achos o ddefnyddwyr mesuryddion clyfar, siartiau gwybodaeth, ffotograffiaeth a chynnwys fideo, cysylltwch â thîm cyfryngau Ynni Clyfar GB: 

Kate Mann, Stacey Oliver neu Hollie Jones ar [email protected] / 02920 789 321