Smart Energy Outlook Press Release - Welsh Version
- Canfyddiadau’r Rhagolwg Ynni Clyfar, y baromedr annibynnol mwyaf ar gyfer y farn gyhoeddus genedlaethol am ynni a mesuryddion clyfar
- Cymry sy’n dangos y diddordeb mwyaf mewn mesuryddion clyfar (66% yn erbyn 59% cyfartaledd Prydain Fawr)
Wrth i’r ehangu ar y mesuryddion clyfar, sef yr uwchraddio mwyaf ar ein seilwaith ynni cenedlaethol ers cenhedlaeth, gynyddu, mae Ynni Clyfar GB wedi cyhoeddi Rhagolwg Ynni Clyfar heddiw. Mae’r canfyddiadau’n dangos bod teuluoedd sydd â mesuryddion clyfar yn teimlo bod ganddynt lawer mwy o reolaeth fel defnyddwyr nwy a thrydan na’r rhai sydd â mesuryddion analog.
Dyma rai o’r canfyddiadau allweddol:
- Mae gan bobl sydd eisoes â mesuryddion clyfar lawer mwy o hyder ym manwl gywirdeb eu biliau nwy a thrydan o gymharu â’r rhai sy’n defnyddio mesuryddion traddodiadol. Mae mwy na thri chwarter (76%) y bobl sydd â mesuryddion clyfar yn dweud eu bod yn meddwl bod eu bil ynni’n fanwl gywir yn erbyn 57% o’r rhai sydd â mesuryddion analog.
- Mae mwy na dwy ran o dair o’r bobl sydd â mesuryddion clyfar yn meddwl bod ganddynt y wybodaeth y mae arnynt ei hangen i ddewis y tariff ynni priodol, 68% o gymharu â dim ond 51% o’r rhai sydd â mesuryddion analog.
- Y nodweddion mwyaf apelgar ar fesuryddion clyfar, i’r rhai sy’n gwybod beth ydynt, yw gallu gweld faint o ynni rydych chi’n ei ddefnyddio mewn punnoedd a cheiniogau (60%) a derbyn biliau manwl gywir yn hytrach nag amcangyfrifon (44%).
- Mae gan bobl Cymru fwy o ddiddordeb mewn cael mesurydd clyfar – gyda dwy ran o dair (66%) o’r rhai sy’n gwybod beth yw mesurydd clyfar yn dweud yr hoffent gael gosod un yn eu cartref (o gymharu â 59% ar gyfer cyfartaledd Prydain Fawr).1
- Eisoes mae bron i un o bob pump (18%) ym Mhrydain yn gwybod beth yw mesurydd clyfar.
Rhwng nawr a 2020, bydd mesuryddion clyfar yn cael eu cynnig i bob cartref a micro-fusnes ym Mhrydain Fawr.
Y Rhagolwg Ynni Clyfar yw’r baromedr rheolaidd mwyaf ar gyfer y farn gyhoeddus genedlaethol am faterion ynni a mesuryddion clyfar. Mae’n cael ei gynhyrchu ddwywaith y flwyddyn ar gyfer Ynni Clyfar GB gan Populus. Ynni Clyfar GB yw’r sefydliad annibynnol sydd wedi’i benodi gan y llywodraeth i weithio gyda theuluoedd a micro-fusnesau ledled Cymru, Lloegr a'r Alban wrth ehangu mesuryddion clyfar i gynnwys pob cartref ym Mhrydain Fawr.
Wrth gyflwyno sylwadau ar y canfyddiadau, dywedodd y Farwnes McDonagh, Cadeirydd Ynni Clyfar GB:
“Mae’n ddechrau ar yr ehangu cenedlaethol ar fesuryddion clyfar i bob cartref ym Mhrydain Fawr. Dyma un o’r prosiectau uwchraddio mwyaf ar seilwaith y genedl i ni ei weld mewn cenhedlaeth. Ar ddechrau’r ehangu fel hyn, mae’n braf gweld bod 18% o’r boblogaeth eisoes yn gwybod beth yw mesurydd clyfar a bod mwyafrif cadarn o’r rhai hynny sy’n gwybod beth yw mesurydd clyfar yn awyddus i gael gosod un yn eu cartrefi. Ond rydyn ni hefyd yn gwybod bod tasg bwysig o’n blaen i gynnwys y wlad gyfan wrth i’r ehangu ddigwydd, gan sicrhau bod pob teulu a micro-fusnes yn manteisio ar y dechnoleg newydd hon ac yn trawsnewid eu profiad o brynu nwy a thrydan.”
Troednodiadau
1. O blith y 18% sy’n gwybod am fesuryddion clyfar, mae 59% eisiau un ac mae gan 10% un eisoes.
- DIWEDD -
NODIADAU I OLYGYDDION
Cynhaliwyd ymchwil ar gyfer Rhagolwg Ynni Clyfar GB rhwng misoedd Tachwedd a Rhagfyr 2014. Holodd Populus 10,071 o ymatebwyr ar-lein a oedd yn cynrychioli poblogaeth Prydain Fawr.
Cefndir Ynni Clyfar GB
Ynni Clyfar GB yw’r sefydliad annibynnol sydd wedi’i benodi gan y llywodraeth i weithio yng Nghymru, Lloegr a'r Alban wrth ehangu mesuryddion clyfar i gynnwys pob cartref ym Mhrydain Fawr. Bydd y sefydliad yn cynllunio ac yn cyflwyno’r cyfathrebu â defnyddwyr i gefnogi’r ehangu cenedlaethol.
Cysylltiadau Cyfryngau Ynni Clyfar GB
I gael rhagor o wybodaeth ac astudiaethau achos o ddefnyddwyr mesuryddion clyfar, graffeg gwybodaeth, ffotograffiaeth a fideo, cysylltwch â thîm cyfryngau Ynni Clyfar GB:
Fflur Lawton: [email protected], 07940 705028
Am fesuryddion clyfar
Mae mesuryddion clyfar yn dechnoleg newydd a fydd yn trawsnewid sut rydym yn prynu nwy a thrydan. Maent yn rhoi i ddefnyddwyr wybodaeth agos at amser real ar ddefnydd o ynni mewn punnoedd a cheiniogau, biliau manwl gywir a rheolaeth dros eu defnydd o nwy a thrydan.
Mae ehangu’r mesuryddion clyfar yn brosiect uwchraddio technoleg hanfodol i wella seilwaith ynni Prydain Fawr. Nid ydym wedi gweld prosiect ar y raddfa hon o’r blaen. Rhwng nawr a 2020, bydd pob cartref ledled Cymru, Lloegr a’r Alban yn cael cynnig mesurydd clyfar. Mae bron i filiwn o fesuryddion clyfar wedi cael eu gosod yn eu lle.
Mae mesuryddion clyfar yn cynnig y canlynol:
- Gwybodaeth amser real, mewn punnoedd a cheiniogau, am eich gwariant ar nwy a thrydan a’ch defnydd ohonynt.
- Biliau manwl gywir, fel eich bod yn gwybod mai dim ond am beth rydych wedi’i ddefnyddio mewn gwirionedd rydych chi’n talu.
- Haws gweld a ydych yn cael y fargen orau, neu a ddylech newid i sicrhau cynnig gwell.
- Gyda thalu wrth fynd clyfar (talu ymlaen llaw clyfar), bydd defnyddwyr yn gallu ychwanegu at eu credyd yn gyflym ac yn hwylus mewn sawl ffordd; er enghraifft, ar-lein, dros y ffôn, drwy neges destun, mewn siopau neu drwy ap ar ffôn clyfar.