GOFYNNWCH AM EICH MESURYDD CLYFAR
Cysylltwch â'ch cyflenwr ynni heddiw i ofyn am eich mesurydd clyfar heb unrhyw gost ychwanegol.
Os na allwch ddod o hyd i'ch cyflenwr ar y rhestr isod, mae'n bosib y bydd angen i chi gysylltu â nhw'n uniongyrchol i gael gwybod sut y gallwch ofyn iddynt am eich mesurydd clyfar. Dylai eu manylion cyswllt fod ar eich bil nwy neu drydan.
Ddim yn gwybod pwy yw eich cyflenwr ynni? Ar gyfer eich cyflenwr nwy, ewch i Find My Supplier neu ffoniwch 0870 608 1524. Ar gyfer trydan, ewch i uSwitch am y rhif i'w ffonio i ddod o hyd i'ch cyflenwr trydan yn eich rhanbarth. Mae'n bosib y codir tâl am yr alwad.